Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2022
Amser:
13.31 -
15.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12896
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
Cyn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn rhithwir yn hytrach na wyneb yn wyneb fel y nodwyd yn wreiddiol ar yr agenda a gyhoeddwyd.
2 Offerynnau nad ydynt yn codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)216 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
2.2 SL(6)221 - Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2.3 SL(6)223 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)217 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)218 - Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)219 - Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.4 SL(6)220 - Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.5 SL(6)228 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(6)213 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.2 SL(6)207 - Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.3 SL(6)212 – Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Presenoldeb mewn Cyfarfod Rhynglywodraethol ar 16 Mehefin
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
5.2 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Rheoliadau Asiantaethau’r UE (Dirymiadau) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
5.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunodd y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch nifer o faterion.
5.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 15 Mehefin 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dangosfwrdd Rhyngweithiol Cyfraith yr UE a Ddargedwir
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd.
6.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
6.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd.
6.6 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i’r Prif Weinidog: Datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog: Bil llywodraethu amgylcheddol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y Prif Weinidog.
6.7 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Bil Hawliau Llywodraeth y DU
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Llywydd.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Protocol Gogledd Iwerddon
Trafododd y Pwyllgor y papur briffio ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon a nododd y llythyr gan Weinidog yr Economi at y Llywydd.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Banc Seilwaith y DU
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Bil Banc Seilwaith y DU a’r Nodyn Cyngor Cyfreithiol. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cyn ystyried ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
10 Cymru yn y DU - deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid
Bu'r Pwyllgor yn ystyried crynodeb thematig o'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ei ddigwyddiad i randdeiliaid 'Cymru yn y DU - deddfu mewn cyd-destun cyfansoddiadol sy'n newid' a chytunodd i gyhoeddi'r crynodeb a'r papur cefndirol sy'n cyd-fynd ag ef.
11 Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017
Nododd y Pwyllgor y papur briffio a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
12 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Dull gweithredu ar gyfer craffu (yn amodol ar gyflwyno'r Bil)
Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunwyd ar hyn.